Rhif y ddeiseb: P-06-1270 Teitl y ddeiseb: Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan. Geiriad y ddeiseb: Am 9.15 am ddydd Gwener, 21 Hydref, 1966, dechreuodd tomen gwastraff glo uwchben pentref glofaol Aberfan lithro i lawr y mynydd, gan ddinistrio bwthyn fferm yn gyntaf a lladd pawb a oedd ynddo. Yna, llithrodd ymhellach tuag at Ysgol Iau Pantglas, lle’r oedd y plant newydd ddychwelyd i'w dosbarthiadau ar ôl canu All Things Bright and Beautiful yn eu gwasanaeth boreol. Claddwyd yr ysgol a thua 20 o dai yn y pentref, gan ladd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant ysgol. Ar 26 Hydref 1966, penodwyd tribiwnlys i ymchwilio i achosion trychineb Aberfan a'r amgylchiadau. Cadeirydd y tribiwnlys oedd y bargyfreithiwr a’r Cyfrin Gynghorydd yr Arglwydd Ustus Edmund Davies. Dyma gasgliadau’r adroddiad: * Y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a’r ffaith nad oedd ganddynt unrhyw fath o bolisi ar domenni glo, oedd yn llwyr gyfrifol am y trychineb * Anwybyddwyd rhybuddion niferus am gyflwr peryglus y domen. * Nid oedd y tomenni wedi cael eu harchwilio erioed ac roedd y Bwrdd Glo yn ychwanegu atynt yn barhaus a hynny heb unrhyw fath o drefn na chynllun. Roedd y Bwrdd Glo wedi diystyru’r cyflwr daearegol ansefydlog ac nid oedd wedi gwneud dim yn dilyn llithriadau llai, blaenorol, a dyma oedd y prif ffactorau a gyfrannodd at y trychineb. Ni ddylid anghofio'r bobl ddiniwed hyn a dylent aros yn ein cof am byth. Dylai'r 21ain o Hydref fod yn Ddiwrnod Coffa cenedlaethol i gofio amdanynt a sicrhau na fyddant byth yn angof. |
Ar 21 Hydref 1966, digwyddodd y trychineb mwyngloddio gwaethaf yn hanes Prydain yn Aberfan, pentref bychan yn ne Cymru. Cwympodd tomen lo a godwyd ar ochr y bryn yn edrych dros bentref Aberfan, ac fe wnaeth y tirlithriad a ddilynodd ddinistrio ffermdai a bythynnod ar ochr y mynydd, 18 o dai yn y pentref, yr ysgol gynradd a rhan o'r ysgol uwchradd.
Gyda’i gilydd, collwyd 144 o fywydau, gyda 116 ohonynt yn blant rhwng saith a deg oed yn bennaf a fu farw yn eu hystafelloedd dosbarth. Bu farw 109 yn yr ysgol iau. O'r 28 o oedolion a fu farw, roedd pump yn athrawon ysgol gynradd.
Yn ei ymateb i’r ddeiseb hon, mae Llywodraeth Cymru yn dweud:
Bob blwyddyn, ar 21 Hydref, rydym yn cofio'r 116 o blant a’r 28 o oedolion a laddwyd yn Ysgol Pantglas ac mewn cartrefi cyfagos ar 21 Hydref 1966. Bydd pawb yma yng Nghymru yn parhau i gadw’r diwrnod hwn yn fyw yn y cof. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i Elusen Goffa Aberfan i helpu i gynnal a chadw'r gerddi coffa ac Elusen Addysg Aberfan ar gyfer prosiectau ysgol yn Aberfan ac Ynysowen.
Yn anffodus, nid oes gennym y pwerau i ddynodi diwrnodau cenedlaethol – Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hyn.
Mae paragraff 190 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadw’r canlynol yn ôl:
Amserlenni, parthau amser, testun Deddf Amser Haf 1972, unedau amser, y calendr, gwyliau banc a dyddiad y Pasg.
Mae'r cysyniad o “Ddiwrnod Coffa” – fel y mae’r Deisebydd yn ei gynnig – yn galw am gydnabod dyddiad trychineb Aberfan fel diwrnod coffa ledled Cymru. Nid yw’n galw am wneud dyddiad penodol yn ŵyl y banc wedi’i ddynodi’n gyfreithiol, felly nid yw neilltuad Atodlen 7A yn gymwys.
Mae Diwrnod y Cadoediad (sy’n cael ei ddathlu ar 11 Tachwedd) yn enghraifft o achlysur sy’n cael ei gydnabod fel diwrnod coffa cenedlaethol, nad yw wedi’i ddynodi’n ŵyl y banc. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Dydd Miwsig Cymru, fel diwrnod sy’n “dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg”.
Ar 19 Hydref 2016, fe wnaeth y Senedd goffau hanner can mlynedd ers y trychineb gydag areithiau yn y Cyfarfod Llawn gan bob plaid, dan arweiniad Dawn Bowden AS, yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |